Bwthyn Cwm Eigiau 

Gwybodaeth am Fwthyn Cwm Eigiau 

Does neb yn gwybod pryd adeiladwyd Bwthyn Cwm Eigiau ond yn y cofnodion eglwysig yr oedd pobol yn byw yno ers y flwyddyn 1694. Bugeiliaid a gweithwyr amaethyddol oedd y rheiny ond yn hwyrach daeth chwarelwyr a llafurwyr yr argae i fyw yn y bwthyn. Erbyn yr ugeinfed ganrif doedd neb yn byw yno. Defnyddiwyd y lle gan ffermwyr yr ardal fel ystordy. Mewn cyflwr truenus rhentwyd y bwthyn gan Glwb Mynydda Rucksack Manceinion yn y flwyddyn 1911. Oddi yma ymchwiliodd mynyddwyr y mynyddoedd a chreigiau heriol y Carneddau.

Agorwyd Bwthyn Cwm Eigiau gan y Clwb Rucksack yn 1912; y bwthyn mynydda cyntaf ym Mhrydain Fawr, yn anffodus o herwydd effaith Rhyfel  y Byd Cyntaf a fandaliaeth clowyd y bwthyn erbyn 1921. Yn fuan iawn yr oedd y bwthyn mewn cyflwr truenus. Ym mlwyddyn 1967, ar ôl tair blynedd o atgyweirio, agorwyd y bwthyn gan aelodau Clwb Mynydda Rugby. Ers hynny mae’r clwb wedi bod yn rhoi croeso i ymwelwyr. Mae’r lle ar gael i'w fwcio trwy aelodau Clwb Mynydda Rugby. Mae’r ardal yn ddihangfa berffaith i gerddwyr, dringwyr a grwpiau eraill. Mae aelodau Clwb Rugby yn gofalu am y bwthyn ac maen nhw’n cario tanwydd, nwy ac ati i fyny i'r cwt. Mae llwybr garw am ddwy filltir at y bwthyn; felly yr ydym yn gwerthfawrogi os gwnaiff yr ymwelwyr helpu i gymryd gofal o’r bwthyn yn ystod eu harhosiad.

Cwm Eigiau - Lle Braf i Fod.

Mae lleteua yn y bwythyn yn syml dros ben, ac mae Cwm Eigiau yn lle anhysbell. Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys gwelyau ar gyfer deg o bobol (pedwar ar y llawr a chwech yn y lloft...dull Alpine!). Mae dŵr oer ar gael yn y gegin ac mae golau trydan solar. Yr ydym yn defnyddio’r nant fechan sy’n rhedeg ychydig o latheni tu allan i'r bwythyn fel oergell. Yn yr estyniad bach ffeindiwch y lle chwech (toiled). Mae tanwydd a “firelighters” ar gael a hen ddigonedd o sospenni ac ati ar gyfer coginio. Yr ydym yn caniatau ymwelwyr i ddod a’u cwn i'r bwthyn ond fasen ni yn gofyn iddyn nhw barchu y lle.


Ble mae Bwthyn Cwm Eigiau?

Mae Bwthyn Cwm Eigiau yn llechu mewn dyffryn crog yn yr ucheldir ger Dolgarrog yn Nyffryn Conwy (SH 713638). Fe welwch y cwt ar y fapmap (OS Outdoor Leisure Map. No. 17). Cliciwch yma Ii ffeindio lleoliad y bwthyn gan ddefnyddio streetmap.co.uk. Mae saeth melynfelen yn dangos lleoliad manwl y bwthyn. Mae’n bwysig i sylweddoli fod y lonlôn yn serth ofnadwy ac mae yna giatiau hefyd. Mae lôn gul am ddwy filltir i'r lle parcio cyhoeddus (SH 732663) sy’n cyrraedd Bwthyn Cwm Eigiau. Mae’r bwthyn yn lle delfrydol i gychwynddechrau allan am fynyddoedd y Carneddau a’r dringfeydd arbennig fel ‘Mur y Niwl’ ac ‘Amphitheatre Buttress’ ar CraigGraig yr Ysfa. Mae’r graig hon tua 45 munud o’r bwthyn (os wyt ti’n ffit!).


Sut i Fwcio’r Bwthyn

Yn gyntaf, ffoniwch John Smith (Warden y Cwt) 07984 596011 neu’n well  byth defnyddiwch yr e-bost (hut.bookings@rugbymc.uk).

Taliadau'r flwyddyn 2023 ymlaen:

£10 am bob noson (Aelodau'r clwb RMC a BMC).

£12 pawb arall, pob noson.


Taliadau'r flwyddyn 2024 ymlaen:

£11 am bob noson (Aelodau'r clwb RMC a BMC).

£13 pawb arall, pob noson.

Mae taliad ychwanegol o £5 pob noson, pob grŵp...mae yn cynnwys nwy a thanwydd.

Adolygir y taliadau pob blwyddyn.


Sut mae’n Gweithio?

Ar ôl i'r warden gadarnhau eich cais am aros mi gewch yr agoriad trwy’r post (tua deg diwrnod cyn eich ymweliad). Gwnewch yn siŵr bod gan y warden y cyfeiriad gorau i'w ddefnyddio. 

Pan ydych wedi gorffen eich ymweliad rhaid dychwelyd yr agoriad mor fuan â phosib a thalu ffioedd y cwt yn cyfrif banc RMC. Cewch label i ddanfon yr agoriad yn ôl. Rhaid ichi ddefnyddio “large letter stamp”. Os mae’n bosib defnyddiwch yr amlen mae’r agoriad wedi cyrraedd ynddi.

Pryd mae’r Bwthyn Ar Gael?

Dangosir nosweithiau bwcio ar dudalen y dyddiadur. Mwy na thebyg bydd y cwt ar gael o ganol pnawn y diwrnod canlynol. Nid ydym yn dweud yn bendant pryd rhaid i ymwelwyr adael y cwt (efallai bydd hynny yn dibynnu ar y tywydd) ond rhaid parchu ymwelwyr eraill sy newydd gyrraedd i ddechrau eu harhosiad.